NEWydd round logo

Prydau Ysgol NEWydd

Mae NEWydd yn darparu amrywiaeth eang o brydau iach yn ôl cylch tair wythnos. Mae pob un o’n prydau wedi’u gwneud yn defnyddio cynhwysion o’r ansawdd gorau ac maen nhw wedi’u cyflenwi gan gynhyrchwyr lleol pan fydd hynny’n bosibl. Rydym ni’n ymfalchïo yn ein ryseitiau sy’n addas i blant, ein bwydlenni amrywiol a diddorol, ein prydau o faint digonol a’r ffaith ein bod ni’n gallu ennyn diddordeb plant yn amser bwyd drwy ein cymhellion a’n diwrnodau thema hwyliog.

Stock Pupils Eating 2

Mae ein bwydlenni i gyd wedi cael eu dadansoddi o ran maeth yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn bodloni anghenion disgyblion am brotein, carbohydradau, braster, siwgr a halen.  Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod pob bwydlen yn rhoi dewisiadau bwyd maethlon a chytbwys, sy’n rhan bwysig ac annatod o fywyd yr ysgol. Mae bwyta prydau maethlon, cytbwys ac iach yn helpu i gefnogi datblygiad a thwf parhaus person ifanc, drwy roi hwb i ganolbwyntio, gwella perfformiad a sicrhau eu bod nhw’n cymryd rhan weithredol drwy gydol y diwrnod ysgol.

Mae plant yn bwyta tua thraean o’r bwyd y maen nhw’n ei fwyta bob dydd yn ystod y diwrnod ysgol ac yma yn NEWydd yr ydym ni wedi ymrwymo i fwyta’n iach ac yr ydym ni’n gweithio’n galed ag ysgolion i hybu iechyd a lles disgyblion. Rydym ni’n parhau i ddarparu’r bwyd gorau posibl ac yn dymuno helpu pobl ifanc yn Sir y Fflint i ganfod a mwynhau bwyd newydd a chyffrous y bydd yn eu hannog nhw i fyw bywyd iach a heini. 

Stock Pupils Eating 3

Mae ein staff y gegin yn cael rhaglen hyfforddi barhaus i sicrhau eu bod nhw’n gallu cydymffurfio â phob agwedd ar ddiogelwch bwyd o archebu, ymwybyddiaeth o alergeddau, paratoi, coginio, gweini a glanhau'r bwyd a’r offer i gyd sy’n cael eu defnyddio wrth ddarparu prydau ysgol. Mae pob Rheolwr Ardal yn archwilio pob cegin yn flynyddol, i ddarparu adroddiadau i'r Uwch Reolwyr a Phenaethiaid. Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd hefyd yn archwilio'r ceginau’n rheolaidd ac yn rhoi dyfarniad Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Gweld Ein Bwydlen   Bwydlen Ysgolion Cynradd