Mae cwmni Arlwyo a Glanhau Newydd yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol newydd sbon a grëwyd i gyflwyno gwasanaethau arlwyo a glanhau o safon uchel, sy’n ariannol hyfyw, yn gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar y cwsmer. Mae’r gwasanaeth Arlwyo a Glanhau yn cael ei gymryd o reolaeth uniongyrchol y Cyngor Sir er mwyn ymateb yn well i ofynion y farchnad a thrwy newid y ffordd rydym yn gwneud pethau gellir cynnal a gwella gwasanaethau dewisol gwerthfawr.