Diwrnod ym Mywyd Cynorthwyydd Arlwyo
Dyma sut gall diwrnod
Cynorthwyydd Arlwyo NEWydd edrych yn un o'n hysgolion ni -
10:00am - Cyrraedd, newid, arwyddo i mewn, cwblhau unrhyw gofnodion HACCP y mae cogydd/goruchwyliwr y safle eu hangen ar y pryd.
10.15am - gweithio dan arweiniad y rheolwr atebol - tasgau paratoi bwyd cyffredinol, cadw cyflenwadau, gosod yr ystafell fwyta’n barod, gwirio’r bwydlenni, gwirio’r archebion bwyd ar gyfer y dydd, a gwirio unrhyw alergeddau neu geisiadau dietegol. Rhoi’r offer coginio allan yn barod a chwblhau’r gofynion HACCP eto.
12.00pm - Gweini cinio i ddisgyblion a staff, ymgysylltu â disgyblion a sicrhau profiad amser cinio pleserus iddynt. 12.45pm - clirio’r ystafell fwyta, glanhau’r byrddau, brwsio’r lloriau, mopio lle bo angen, gwagio’r biniau.
1.00pm - gorffen - Glanhau’r gegin, gan gynnwys y lloriau, golchi llestri, arwynebau gwaith a’r oergelloedd a rhewgelloedd. Cwblhau gofynion HACCP. Arwyddo allan a gorffen, gan adael ardal y gegin yn lân ac yn ddiogel.Mae angen gweithio mewn modd diogel bob amser ac yn unol â chanllawiau a rheoliadau Hylendid Bwyd ac Iechyd a Diogelwch - a rhoi gwybod am unrhyw beth nad yw’n bodloni’r safon ofynnol.
Os hoffech chi ymuno â thîm NEWydd, cysylltwch