NEWydd round logo

Prydau Ysgol NEWydd

Yn NEWydd rydym ni’n credu y dylai prydau ysgol fod yn fwy na rhywbeth i’ch llenwi chi – fe ddylen nhw fod yn hwyl, blasus ac yn dda i chi. 

Yn ystod y flwyddyn ysgol o 39 wythnos, rydym ni’n gweini mwy na 2.1 miliwn o brydau ar draws ein hysgolion– gan ddefnyddio cynhwysion o ansawdd wedi’u cynhyrchu’n lleol ble bynnag y bo’n bosibl.

Pam dewis Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion NEWydd?

• Bwydlen Gylchdro 3 Wythnos 

Amrywiaeth eang o brydau iach, addas i blant ac wedi’u cynllunio i’w cadw’n ddiddorol ac yn gytbwys. 

• Arddangosfeydd Coginio Byw

Dod â choginio’n fyw!  Rydym yn cynnal arddangosfeydd coginio byw - gan droi amser cinio’n brofiad hwyliog ac addysgiadol

• Bwyta’n Ddoeth, Cynilo’n Well

Mewn partneriaeth â Betsi Cadwaladr, rydym yn cynnal sesiynau rhyngweithiol mewn ysgolion i addysgu disgyblion a rhieni am fwyta’n iach, cyllidebu, a chynllunio prydau. 

• Gorsafoedd Dŵr

Rydym ni’n helpu disgyblion (a rhieni!) i dorri’u syched gyda’n gorsafoedd dŵr mewn mabolgampau a digwyddiadau ysgol. 

• Bwyta Mwy, Gwastraffu Llai

Drwy ein menter gwastraff bwyd, rydym wedi helpu ysgolion i leihau gwastraff o 17.5% - mae hynny’n 14,820 o brydau wedi’u hachub o’r bin. 

Stock Pupils Eating 2

Maeth i Gefnogi Addysg

Mae pob bwydlen yn cael ei dadansoddi'n faethol i wneud yn siŵr eu bod yn cyrraedd safonau Llywodraeth Cymru, gan sicrhau’r cydbwysedd cywir o brotein, carbohydradau, braster, siwgr a halen ar gyfer cyrff sy’n tyfu a meddyliau actif.  

Gall bwyta’n dda yn yr ysgol helpu i roi hwb i lefelau canolbwyntio, egni a chyfranogiad - ac rydym yn falch o gefnogi hynny bob dydd. 

Y Tîm Angerddol y tu ôl i bob Platiad 

Mae ein timau cegin hyfforddedig wrth wraidd popeth a wnawn.  Mae pob aelod yn derbyn hyfforddiant parhaus o ran diogelwch bwyd, ymwybyddiaeth alergedd, diogelu ac arfer orau, o’r broses baratoi i’r broses lanhau. 

Mae archwiliadau blynyddol gan ein Rheolwyr Ardal ac arolygon rheolaidd gan Swyddogion Iechyd Amgylcheddol yn sicrhau ein bod yn bodloni’r safonau hylendid uchaf posibl.

Mae 95% o’n safleoedd wedi rhoi sgôr o 5 seren i ni 

Stock Pupils Eating 3

Ein Cenhadaeth?

Gwneud pob pryd ysgol yn gyffrous, maethlon ac yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, a helpu disgyblion i ddatblygu arferion byw iach. 

Gweld Ein Bwydlen   Bwydlen Ysgolion Cynradd 

 

Cyflenwyr

Harlech Logo Blue Bilingual PNGLlaeth y Llan high res logo NoBKGradnor
NEWydd round logo