Ynglŷn â NEWydd
Mae cwmni Arlwyo a Glanhau NEWydd yn Gwmni Masnachu Awdurdod Lleol a grëwyd gan Gyngor Sir y Fflint i ddarparu gwasanaethau arlwyo a glanhau o safon uchel, sy’n hyfyw yn ariannol, yn gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar y cwsmer. Mae ein gwasanaethau’n cael eu darparu gan oddeutu 400 o weithwyr lleol i wella’r gefnogaeth yr ydym ni’n ei rhoi i’n cymunedau. Rydym ni’n ymdrechu i fod y gorau yn yr ardal leol a sicrhau bod lefel boddhad ein cwsmeriaid yn 100%.